Cysawd yr Haul

English



Cysawd yr Haul

Mae'r adran hon yn cyflwyno beth yw cysawd yr haul a beth sy'n ffurfio cysawd yr haul. Mae'r dudalen hon yn trafod deunydd addysgol o feysydd llafur CA2, CA3 a TGAU.

Beth yw cysawd yr haul?

Casgliad o wrthrychau ym maes disgyrchiant seren yw cysawd yr haul.

Allwch chi feddwl am dri math gwahanol o wrthrychau posibl?

Ein cysawd yr haul

Yr Haul yw'r seren yng nghanol ein cysawd yr haul.

Mae wyth planed mewn orbit o gwmpas yr Haul.

Delwedd o'n cysawd yr haul

rawpixel.com/image/440551/free-photo-image-solar-system-universe-astrology

Enwir y planedau isod yn yr un drefn o'r chwith i'r dde a ddangosir yn y llun uchod.

  1. Mercher
  2. Gwener
  3. Daear
  4. Mawrth
  5. Iau
  6. Sadwrn
  7. Wranws
  8. Neifion

Gan ddefnyddio'r wybodaeth yma, atebwch y cwestiynau isod:

Enwi'r planedau

Ceir ambell gofair, neu fnemonig (ymadroddion i'ch helpu i gofio trefn) planedau. Fe welir ambell enghraifft isod. Nid oes yn rhaid i chi ddefnyddio'r rhain, ond dylech ddod o hyd i/greu un sy'n gweithio i chi.

"Mewn Gwely Du Mae Ianto'n Sâl Wedi Naw"
"Mam Glesni Ddywedodd Mai Iwan Saethodd Wil Neithiwr"
"Mae Gŵr Dilys yn Mynd I'r Sioe Wythnos Nesaf"
"Mari Gwenllian Dafis, Maes Iago, Stryd Wiliam, Nefyn"

Efallai eich bod chi wedi sylwi fod yr holl blanedau (heblaw'r Ddaear) wedi'u henwi ar ôl duwiau mytholegol.

Ymarfer Ymchwil: Allwch chi ganfod ar ôl beth mae pob un o'r duwiau wedi ei enwi, a duwiau neu dduwiesau beth oedden nhw.
Er enghraifft, Mercher oedd duw Rhufeinig siopwyr, masnachwyr, teithwyr, cludwyr, lladron a thwyllwyr.

Sut mae cysawd yr haul yn ffurfio?

Wrth i seren enfawr droi'n uwchnofa (ffrwydro), mae'n creu cwmwl llwch enfawr sy'n cael ei alw yn nifwl. Isod, fe welir llun o 'gwmwl llwch'; enw'r cwmwl llwch hwn yw Nifwl Orion.

Delwedd o Delesgop Gofod Hubble o Nebula Orion

Llun Telesgop Gofod Hubble NASA o Nifwl Orion

Gall nifwl gwympo arno'i hun wrth i'r gronynnau ddechrau ffurfio yn glympiau o ddisgyrchiant uwch sy'n tynnu gweddill y defnydd tuag atyn nhw. Enwir y clympiau hyn yn Globylau Bok (ar ôl seryddwr o'r Iseldiroedd, Bart Bok).

Mae'r defnydd y tu mewn i'r Globylau Bok yn cael ei gywasgu'n fwy ac mae'r meysydd disgyrchiant yn tyfu, gan ffurfio protosêr (sêr bach sydd ddim eto'n ddigon cynnes i'w galw'n sêr).

Wrth i'r gwasgedd barhau i dyfu mewn protoseren, mae'r tymheredd yn cynyddu. Yn y diwedd, ar ôl i'r craidd gyrraedd 15 miliwn ℃, mae proses o'r enw ymasiad niwclear yn dechrau. Mae bellach yn seren.

Mae'r llwch cylchol a'r defnydd sydd ar ôl o'r nifwl, a elwir yn ddisg ymgasglu, yn parhau i droelli o gwmpas y seren newydd. Mae'r defnydd yn malu ac yn cyfuno gan ffurfio'n araf blanedau, lleuadau, asteroidau, a chylchoedd planedol.

Gwelir isod fideo yn dangos ffurfio cysawd yr haul. Wrth i chi ei wylio, chwiliwch am y pwyntiau allweddol. Mae'n dechrau gyda nifwl, yna mae protoseren yn ymddangos, daw'r protoseren yn seren, ac mae gweddill y nifwl yn dechrau ffurfio planedau mewn orbit o gwmpas y seren.

Dyma sut cafodd ein cysawd yr haul ei greu tua 4,571,000,000 (4.571 biliwn) o flynyddoedd yn ôl.

Gweithgaredd: Nawr ceisiwch dynnu llun gwahanol gamau ffurfio/geni seren mewn stribed comig. Cofiwch eu labelu gan ddefnyddio'r geiriau allweddol sydd wedi'u huwcholeuo yn y testun uchod.

Atebion

Er mwyn gwirio eich atebion, gweler y daflen atebion. Ni ddylech ddefnyddio hon tan ar ôl i chi roi cynnig ar bob cwestiwn.

Hoffem weld eich stribedi comig a'u rhannu nhw (os ydych yn caniatáu hynny) ar y dudalen yma. Anfonwch nhw at nar25@aber.ac.uk gyda'ch enw, eich blwyddyn a'ch ysgol (neu'n ddienw os dymunwch). Trwy anfon eich manylion atom, rydych yn rhoi caniatâd i ni gysylltu â chi ynglŷn â'r gweithgaredd hwn a dim arall.